Mecsico

Dafydd Dabson

Mi ddaw, mor ddistaw a'r cymylau wedi'r glaw,
yn treuddio drwy dy gragen, o mi ddaw
fel llewyrch bach o olau yn dy law
O gafael yn dynn o gafael yn dynn.

Mae na si ar y gwynt bod y cerrynt yn gynt,
na'r oll sy'n dal ni nol, mae'r awenau yn agosau
dal yn dynn ma na ddigon o fynd,
bydd y dorf yn dal i'n llusgo ni ymlaen, mae'n ddibaid.

Ar ol hyn gawn ni fynd lawr i Mecsico.
Hel yr heulwen sy'n tanio ni i adfywio,
a'r gobaith pendraw fod na enfys ar ol y glaw
yn Mecsico, Mecsico.

Rhywddydd, daw'r glaw yn ol i ffendio ni'n cysgu,
cynhyrfu lli yr afon, o rhywddydd
yn rhwygo'r clawdd a'n gadael ninnau'n fud.
Paid gadael o fynd, paid gadael o fynd,

gan fod na si ar y gwynt bod y cerrynt yn gynt,
na'r oll sy'n dal ni nol, mae'r awenau yn agosau.
Dal yn dyn ma na ddigon o fynd,
bydd y dorf yn dal i'n llusgo ni ymlaen, mae'n ddibaid.

Ar ol hyn gawn ni fynd lawr i Mecsico.
Hel yr heulwen sy'n tanio ni i adfywio,
a'r gobaith pendraw fod na enfys ar ol y glaw
yn Mecsico, Mecsico.

Altri artisti di Heavy metal music